Ciw-restr

Sdimbydineud

Llinellau gan R Ben Igol (Cyfanswm: 25)

 
(0, 8) 430 Gadewch i ni rewi'r chwarae ar y pwynt yma a gweld, eto, be sy'n mynd mlan mewn gwirionedd.
(0, 8) 431 Nawrte, ry' chi'n cofio fy nghyfaill yn dweud mai'r tric yw ffurfio cabinet fydd yn ddigon cryf i'w helpu i reoli'r bwrdd yn grwn.
(0, 8) 432 ~
(0, 8) 433 Wel – wrth feddiannu'r gweision coch a gwyn hyn mae hi ar ei ffordd tuag at y nod hynny.
(0, 8) 434 Unwaith mae gyda chi ddau was ar ben ei gilydd, mae gennych was sydd â dwbl y grym.
(0, 8) 435 Yn wahanol i'r gweision normal sydd ddim ond yn gallu symud ffor' na neu ffor' na, ma'r uwch-Weision hyn – y gweision Cabinet – yn gallu mynd i ba gyfeiriad bynnag ma nhw am.
(0, 8) 436 ~
(0, 8) 437 A – meddech chi – siwt ma'r Gweision Cabinet yma – os y'n nhw mor rhydd a holl bwerus – ddim yn creu problemau i'r Meistr?
(0, 8) 438 Nawrte, mae'r ateb yn yr hyn y'ch chi ddim yn gweld – yr hyn dyw'r camerâu ddim yn gallu dangos i chi.
(0, 8) 439 Ond, os edrychwch chi'n ofalus iawn iawn iawn, falle fe welwch chi fod yna rywbeth yn dal y tope gwyrdd wrth y gwaelodion, beth bynnag bo'u lliw.
(0, 8) 440 Y'ch chi'n gallu gweld beth yw e?
(0, 8) 441 Weda'i wrthoch chi – punnoedd.
(0, 8) 442 Wyth mil ohonyn nhw.
(0, 8) 443 ~
(0, 8) 444 Ma' pob un o'r Gweision Cabinet hyn yn cael £8,000 ychwanegol y flwyddyn – o law'r Meistr-Chwaraewr – am yr hawl a'r fraint o wisgo'r goron werdd.
(0, 8) 445 ~
(0, 8) 446 Does gan rein – y gweision cyffredin – dim owns o rym, a gweud y gwir.
(0, 8) 447 Allan nhw gico a sgrechen a bygwth fel ma' nhw am.
(0, 8) 448 Gwneith hi fawr ddim o wahaniaeth.
(0, 8) 449 Ac os penderfynith un o'r Gwesion Cabinet fynd eu ffordd eu hunain, wel 'Ffein' medde'r Meistr.
(0, 8) 450 Ond fydd hi'n 'ta-ta' i'r £8,000 ychwanegol wedyn.
(0, 8) 451 ~
(0, 8) 452 Mae cynghorwyr – y rhan fwyaf ohonynt, yn ddi-os – yn gweithio'n galed am y £12,000 a ganiateir iddynt.
(0, 8) 453 Mae aelodau'r cabinet – o gofio yr oriau ychwanegol a'r cyfrifoldebau mawr ma nhw'n cario – yn haeddiannol o'r tâl ychwanegol.
(0, 8) 454 Ond yr hyn y mae'r system cabinet wedi'i greu yw...